Cyhoeddiad: Ni Allwn-Allwn Ni - Diffwys Criafol

Cyfrol olaf 2025 o stabl Cyhoeddiadau’r Stamp fydd Ni Allwn – Allwn Ni gan Diffwys Criafol.

Cynddaredd, cariad, gofal, galar – mewn dwy ysgrif ddeifiol a di-flewyn ar dafod, mae Diffwys Criafol yn cyflwyno dadansoddiad treiddgar o rianta dan gyfalafiaeth, ac anallu ein cymdeithas ar ei ffurf bresennol i gefnogi rhieni â thrawma ac afiechyd meddwl. Yn ei hail ysgrif, cawn gipolwg ar effeithiau Daeargryn 2023 ar deuluoedd Cwrdaidd yng Nghymru, a chondemiad o’n hanallu yn y gorllewin i roi gwerth ar fywydau pobl o liw yn y Dwyrain Canol. Mae Diffwys Criafol yn rhoi ei dwylo ar ein hysgwyddau a’n hysgwyd yn effro.

Yn un o’r awduron y dewisiwyd eu gwaith trwy Ffenestr Gyflwyno 2023 (gyda Rhuo ei distawrwydd hi gan Meleri Davies a Nôl Iaith gan clare e. potter), mae Diffwys Criafol yn sgwenwraig anarchaidd anhysbys. Wedi tyfu i fyny yn symud tŷ yn rheolaidd, mae’n hanu o Lanbobman / Nant Nunlle – o’r Cymoedd i Wynedd.

Mae’n byw heddiw, fel sawl un dadwreiddiedig, yng Nghaerdydd – yn byw bywyd brechdan, fel llenwad amwys rhwng tafell o fara frad-am-y-fro a chrystyn euog-foneddigeiddio. Mae ei hysgrifau i’w canfod ar lein ac mewn ambell gasgliad a chylchgrawn, ond dyma’i chyfrol unigol gyntaf.

Wedi’i phecynnu y tu ôl i glawr trawiadol o waith jo baines, dyma’r ail gyfrol yn ein cyfres sy’n rhoi sylw i ryddiaith ffurf-fer.

Mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn wasg gwbl annibynnol nad yw’n derbyn ceiniog o nawdd cyhoeddus – felly rydym yn dibynnu ar ragarchebion i barhau i gyhoeddi llyfrau fel Ni Allwn – Allwn Ni. Rhagarchebwch eich copi chi yma heddiw.

 

Ni Allwn – Allwn Ni

Diffwys Criafol / Cyhoeddiadau’r Stamp 2025

ISBN 978-1-0682167-4-9 / 48t. / £7.50

Celf y clawr: jo baines

 

Tudalen enghreifftiol:

Next
Next

Teyrnged: Nerys Bowen