Teyrnged: Nerys Bowen

Tristwch o’r mwyaf oedd clywed am farwolaeth y bardd a’r awdur Nerys Bowen, ac mi rydan ni’n estyn ein cydymdeimlad i’w theulu a’i ffrindiau a phawb oedd yn ei nabod. 

I ni yng Nghyhoeddiadau’r Stamp, roedd hi’n un fu’n cyfrannu’n gyson ym mlynyddoedd cynnar cylchgrawn Y Stamp; yn bresenoldeb bywiog a brwdfrydig mewn lansiadau a pherfformiadau fel ei gilydd. Roedd ei chefnogaeth o’r dyddiau cynnar hynny yn anogaeth werthfawr wrth i ni ddechrau arni yn 2017.

Un o nosweithiau mwyaf cofiadwy cyfnod cylchgrawn Y Stamp oedd lansiad rhifyn 6 yn Nhreorci, a Nerys yn rhan o'r trefnu ac yn fawr ei chroeso hefo pasbort y Cymoedd yr un i ni wrth i ni gyrraedd. Unwaith eto, roedd ei brwdfrydedd yn heintus a’r croeso gafodd y criw o’r gogledd ar ôl taith hir a glawog i lawr i’r cymoedd yn un sydd wedi aros yn y cof.

Yn y cyfnod clo, bu'n rhan o digwyddiad ar-lein 'Lleisiau o'r Cymoedd', a chyhoeddi rhai o'i cherddi mewn pamffled digidol i gyd-fynd â'r noson. Roedd hi hefyd yn un o feirdd Blodeugerdd 2020. Roedd llais Nerys yn unigryw, roedd ganddi bethau pwysig i’w dweud, ac fe fyddwn ni’n ei chofio fel bardd ffeminyddol herfeiddiol ac un o do o feirdd chwareus a mentrus y Cymoedd. 

Mae'n drist eithriadol meddwl na chaiff Nerys weld cyhoeddi ei nofel, y bu'n gweithio'n ddygn arni ers tro. O fod wedi darllen rhai o ddrafftiau cynnar y gwaith, profiad chwerw-felys eithriadol fydd gweld y nofel hon yn dod allan, gan wybod cymaint y byddai wedi ei olygu i Nerys.

Daeth hi'n ffrind i'r Stamp ac yn ffrind i'r Stampwyr; byddai'n aml yn cysylltu os byddai un ohonom yn mynd trwy gyfnod anodd, gyda gair o gysur. Roedd hi hefyd yn gyd-fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe am gyfnod. Rydan ni wedi bod yn ail-ddarllen y gerdd ‘Tomatos Ffresh’ heddiw, ac yn rhyfeddu eto at ei dawn i drin geiriau, a dal cymaint mewn geiriau ymddangosiadol gyffredin:

‘Ac mae’r adar yn dal i fynd at y silff ffenestr bob dydd
i chwilio am fwyd, 
ac fel finnau, yn tybio ble rwyt ti.’

Mi fyddwn ni’n rhannu pytiau o waith gan Nerys o archif y Stamp dros y dyddiau nesaf, mewn gwerthfawrogiad ac edmygedd at un a gyfranodd gymaint.

Dyma’r cyntaf, sef ailgyhoeddiad o bamffled digidol a roddwyd at ei gilydd i gyd-fynd ag un o’n digwyddiadau rhithiol cyntaf erioed, noson ‘Lleisiau o’r Cymoedd’ ym mis Mai 2020.

Lawrlwytho pamffled Lleisiau o'r Cymoedd >>

Darlun: Sion Tomos Owen, lansiad Y Stamp yn Nhreorci, Tachwedd 2018

Next
Next

Cyhoeddiadau: Ffosfforws 7+8