Cyhoeddiad: Y Neuadd - Elin Williams
Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd Ynys Mon 2026 yw Elin Williams, a chyhoeddir ei dilyniant o straeon byrion, Y Neuadd, yn dilyn y ddefod heddiw (dydd Gwener 29 Mai) fel rhan o gyfres Cyhoeddiadau’r Stamp o bamffledi o waith buddugol eisteddfodau’r Urdd.
Elin, sy’n dod o Fetws Gwerful Goch yn Sir Ddinbych, oedd enillydd y Fedal Ddrama y llynedd. Mae hi’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle mae hi’n astudio’r Gyfraith a Chymraeg Proffesiynol.
Dywedodd beirniaid y gystadleuaeth eleni, Manon Wynn Davies ac Arwel Rocet Jones, fod casgliad Ianws yn un ‘gwreiddiol a chyffrous’, sy’n ‘archwilio’r bont rhwng bywyd go iawn a byd technoleg’.
Gallwch brynu copi o Y Neuadd ar y maes ym Môn – o Siop yr Urdd a stondin Awen Menai – a'i archebu o'n siop ar-lein ar ffurf pamffled brint neu ddigidol (cliciwch isod). Bydd nifer o siopau llyfrau ar draws y wlad yn stocio pamffledi llenyddol Eisteddfod yr Urdd 2026 o wythnos nesaf ymlaen. Gallwch rwan hefyd archebu’r casgliad cyflawn o 3 am bris gostyngedig o £12.
CYNNIG ARBENNIG
〰️
CYNNIG ARBENNIG 〰️
Tanysgrifiwch i dderbyn eich copis o waith prif enillwyr llenyddol yr Urdd BOB BLWYDDYN cyn diwedd Mehefin 2026, a bydd eich cylch taliad cyntaf hefyd yn cynnwys holl bamffledi Eisteddfod Bro’r Wenynen, Gwent 2027 - 6 pamffled am bris 3!
Y Neuadd
Elin Williams / Cyhoeddiadau’r Stamp 2026
ISBN 978-1-0682167-9-4 / 32t. / £5.00
Celf y clawr: Chloe Swinburn
Tudalennau enghreifftiol: