Cyhoeddiad: Pontio - Lois Medi
Lois Medi yw Prifardd Eisteddfod yr Urdd am yr eildro mewn tair blynedd, a chyhoeddir ei chasgliad o gerddi, Pontio, yn dilyn y ddefod heddiw (dydd Iau 28 Mai) fel rhan o gyfres Cyhoeddiadau’r Stamp o bamffledi o waith buddugol eisteddfodau’r Urdd.
Enillodd Lois, sy’n wreiddiol o Benrhosgarnedd, Bangor, ond bellach yn byw a gweithio ym Mhatagonia, gadair Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 am ei phryddest ‘Gwrthryfela’.
Dywedodd beirniaid y gystadleuaeth eleni, Manon Wynn Davies ac Arwel Rocet Jones, fod casgliad Ianws yn un ‘gwreiddiol a chyffrous’, sy’n ‘archwilio’r bont rhwng bywyd go iawn a byd technoleg’.
Gallwch brynu copi o Pontio ar y maes ym Môn – o Siop yr Urdd a stondin Awen Menai – a'i archebu o'n siop ar-lein ar ffurf pamffled brint neu ddigidol (cliciwch isod). Bydd nifer o siopau llyfrau ar draws y wlad yn stocio pamffledi llenyddol Eisteddfod yr Urdd 2026 o wythnos nesaf ymlaen.
CYNNIG ARBENNIG
〰️
CYNNIG ARBENNIG 〰️
Tanysgrifiwch i dderbyn eich copis o waith prif enillwyr llenyddol yr Urdd BOB BLWYDDYN cyn diwedd Mehefin 2026, a bydd eich cylch taliad cyntaf hefyd yn cynnwys holl bamffledi Eisteddfod Bro’r Wenynen, Gwent 2027 - 6 pamffled am bris 3!
Pontio
Lois Medi / Cyhoeddiadau’r Stamp 2026
ISBN 978-1-0682167-8-7 / 20t. / £5.00
Celf y clawr: Chloe Swinburn
Tudalennau enghreifftiol: