GALWAD AGORED: Ffosfforws 9

Mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn gwahodd beirdd i anfon eu cerddi er ystyriaeth i’w cyhoeddi yn rhifyn Hydref-Gaeaf 2026 cyfnodolyn FFOSFFORWS. Mae’r cyhoeddiad hwn yn agored i gerddi o bob math ac ar unrhyw thema. Rydym yn croesawu’r caeth a’r rhydd, y traddodiadol a’r avant garde; fel bob amser, rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn gwaith sy’n arbrofol o ran thema, ffurf ac arddull, a gwaith gan feirdd o gefndiroedd sydd wedi’u lleiafrifo. 

Darllenwch y gofynion cyflwyno yn ofalus cyn anfon eich gwaith at cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com, gan nodi FFOSFFORWS 9 fel pwnc. Gallwch hefyd anfon eich cerddi trwy’r post i Bron Llewelyn, Lon Ceunant, Waunfawr, Caernarfon, LL55 4SD, erbyn y dyddiad cau.

Golygydd gwadd: Dafydd Owain

Golygyddion cynorthwyol: Grug Muse & Iestyn Tyne

Dyddiad cau: HANNER NOS, DYDD SUL 23 AWST 2026

GOFYNION

  • Gofynnir i chi gyflwyno hyd at 3 cerdd unigol neu un dilyniant o hyd at 3 cerdd. Ni fyddwn yn dewis mwy nag un gerdd gan un bardd oni bai am gyhoeddi dilyniannau.

  • Nid oes cyfyngiad ar hyd cerddi unigol. Yn achos cerddi sy’n hwy na 60 llinell, fodd bynnag, mae’r golygyddion yn cadw’r hawl i ddewis detholiad os bydd angen.

  • Dylai’r cerddi fod yn waith gwreiddiol y sawl sy’n eu cyflwyno, ac ni ddylent fod wedi eu cyhoeddi mewn mannau eraill eisoes. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd o dechnoleg DA (Deallusrwydd Artiffisial) wrth gyfansoddi.

  • Oherwydd ymarferoldeb argraffu cerddi gweledol (e.e. cerddi collage neu ffoto-haiku) trwy ddull risograff, cerddi testun yn unig y byddwn yn eu derbyn ar gyfer Ffosfforws y tro hwn. Cysylltwch os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn.

  • Caiff y cerddi eu dewis gan y golygydd gwadd, gyda chefnogaeth y ddau olygydd cynorthwyol; bydd y broses o ddethol yn cael ei gynnal heb i’r golygydd gwadd weld enwau’r beirdd, er mwyn sicrhau diduedd-dra. 

  • Bydd penderfyniad y golygyddion yn derfynol, ac ni fyddwn yn cynnig sylwadau yn ddiofyn ar gerddi a wrthodir. 

  • Gofynnir i chi gyflwyno cerddi yn eu ffurf derfynol; ni fyddwn yn disgwyl i chi ailddrafftio gwaith a ddewisir, ond gallwn gynnig awgrymiadau gramadegol. Byddwn yn darparu proflen i chi ei gwirio cyn argraffu.

  • Byddwn yn cynnig cydnabyddiaeth o £15 am bob cerdd neu ddilyniant a gyhoeddir yn Ffosfforws. Byddwch yn derbyn manylion ar gyfer hyn yn dilyn ein penderfyniad.

Anogir beirdd nad ydynt yn gyfarwydd a Ffosfforws i gael golwg ar rai o rifynnau’r gorffennol er mwyn cael syniad o ffurf ac arddull y gyfrol. Gellir dod o hyd i fersiynau digidol a phrint yn ein siop ar-lein. Pob lwc!

Next
Next

Newyddion: Dafydd Owain - golygydd gwadd Ffosfforws 9