Newyddion: Dafydd Owain - golygydd gwadd Ffosfforws 9
Pleser yw cyhoeddi mai Dafydd Owain fydd golygydd gwadd nesaf Ffosfforws, gan ymgymryd a’r gwaith o ddewis a dethol y 15 cerdd gan 15 bardd fydd yn ymddangos yn Rhifyn 9, Hydref-Gaeaf 2026.
Mae Dafydd Owain yn artist o Gaernarfon sydd yn prysur sefydlu ei hun fel un o leisiau cerddorol mwyaf cyffrous Cymru. Rhyddhaodd ei albwm cyntaf fel artist solo yn 2023, gan ennill enwebiadau ar gyfer Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn ogystal ag Albym Cymraeg y Flwyddyn. Fis Hydref 2025, daeth ei ail albwm, ‘Ymarfer Byw’, allan a bu iddi dderbyn clod aruthrol gyda nifer yn ei disgrifio fel un o’r albyms gorau yn 2025 yn ogystal â chael ei disgrifio fel “un o’r albymau pwysicaf i ddod allan o Gymru yn y degawd hwn” gan Nation.Cymru.
Fel sy’n arferol, bydd galwad agored am gyfnod o fis i feirdd yrru eu gwaith i Dafydd ei ystyried. Pan ofynnwyd i’r golygydd gwadd am ryw argraff o’r hyn y mae’n chwilio amdano mewn sgwennu, fel hyn yr ymatebodd:
I like my music with the rinds and the seeds and pulp left in. – Tom Waits.
Dw i'n licio'r sgwennu sy'n cracio.
Y sgwennu sy'n cicio.
Y sgwennu sy'n synnu ei hun,
sy' bron a baglu dros'i hun
Y sgwennu hefo splintars.
Y sgwennu Kintsugi.
Y sgwennu ar lwgu.
Y sgwennu cyn golchi dwylo—
y baw dan yr ewinedd.
Dw i'n licio'r sgwennu
sy'n gwrthod byhafio.
Y sgwennu sy'n glais.
Yn fanno ma'r llais.
Cadwch lygad yma ac ar y cyfryngau cymdeithasol ar ddydd Llun 27 Gorffennaf am holl fanylion ein galwad agored.
Yn y cyfamser, beth am gael golwg ar un o rifynnau blaenorol i weld sut beth yn union ydi Ffosfforws, os nad ydach chi’n gyfarwydd yn barod? Ar gael yn ddigidol ac mewn print (cyfyngedig) o siop y wefan.