Newyddion: Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2025

Hyfrydwch yw cael ar ddeall fod Rhuo ei distawrwydd hi, y gyfrol gyntaf o farddoniaeth Meleri Davies, wedi cyrraedd rhestr fer categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2025, a weinyddir gan Llenyddiaeth Cymru.

Mewn cerddi sydd weithiau’n gynnil-ymatalgar a thro arall yn ffrwydrol, mae Meleri Davies yn y casgliad hwn yn pendilio rhwng galar a gorfoledd bod yn fenyw, yn ferch ac yn fam; a hynny trwy lens tair cenhedlaeth o fenywod yr un teulu.

Fel Caryl Bryn, enillydd y categori barddoniaeth yn 2020 gyda Hwn ydy’r llais, tybad?, mae Meleri yn fardd sydd wedi cyhoeddi ei cherdd gyntaf a’i chyfrol gyntaf mewn print gyda Chyhoeddiadau’r Stamp. Yn dilyn cyhoeddi ei barddoniaeth am y tro cyntaf yn Ffosfforws, daeth cnewyllyn Rhuo ei distawrwydd hi i’n sylw fel un o gynigion ffenestr gyflwyno Tachwedd 2023. Flwyddyn yn ddiweddarach, cyhoeddwyd y casgliad, a chafwyd ail a thrydydd argraffiadau ers hynny.

Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Gallwch gael gafael ar gopi o Rhuo ei distawrwydd hi o’n siop ar-lein, neu o unrhyw siop lyfrau leol sy’n stocio cyfrolau Cyhoeddiadau’r Stamp.

Llongyfarchiadau gwresog hefyd i Siôn Tomos Owen (Pethau sy’n digwydd, Cyhoeddiadau Barddas) a Sioned Erin Hughes (O’r Rhuddin, Y Lolfa), beirdd eraill rhestr fer y categori barddoniaeth.

Previous
Previous

Cyhoeddiad: Sgwâr – Steff ap Carys

Next
Next

Argraffiad newydd: Rhuo ei distawrwydd hi