Cyhoeddiad: Sgwâr – Steff ap Carys

Bydd Cyhoeddiadau’r Stamp yn rhyddhau’r pamffled cyntaf o gerddi Steff ap Carys, Sgwâr, fis Gorffennaf eleni, ac rydym yn falch o ddatgelu clawr y casgliad ac agor y cyfnod rhagarchebu.

Tameidiau byrion, fflachiadau o fywyd bob dydd, yw cerddi Sgwâr – ond y cyfan trwy lens wedi’i ystumio ychydig, nes codi delweddau swréal ac annisgwyl o grombil y sefyllfaoedd cyffredin hynny; fel rhesymeg gorfod llifio’r pysgodyn aur yn ei hanner yn dilyn tor-perthynas, neu yn ei fyfyrdod ar y sgwaryn o wair llipa sy’n weddill yn dilyn dymchwel pabell. Dyma gerddi sydd wedi’u heillio’n agos at y gwraidd gan fardd tawel-herfeiddiol.

Mae Steff ap Carys yn artist amlddisgyblaethol ac ymchwilydd o Aberteifi. Enillodd radd BA mewn Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau o Goleg y Drindod, Caerfyrddin, ac MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd o Brifysgol Caerdydd. Mae ar hyn o bryd yn gweithio ar ei ddoethuriaeth ym maes ffilmgerddi ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ymhlith ei ddiddordebau mae canu gyda chôr Ar ôl Tri, joio sangria yn yr haul, a chrwydro ar ei feic neu yn ei fŵts cerdded.

Gallwch ragarchebu Sgwâr heddiw o’n siop ar-lein, a thrwy hynny gefnogi’r gwaith o gyhoeddi yn annibynnol.

 

Sgwâr

Steff ap Carys / Cyhoeddiadau’r Stamp 2025

ISBN 978-1-0682167-1-8 / 24t. / £8

Argraffiad riso cyfyngedig [100] gan Biscuits Press, Caerdydd – pob copi wedi’i rifo

Celf y clawr: Owain Sautin

 

Tudalennau enghreifftiol:

Previous
Previous

Cyhoeddiad: Nôl Iaith – clare. e. potter

Next
Next

Newyddion: Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2025