Cyhoeddiadau: Ffosfforws 7+8

Mae dau rifyn nesaf cyfnodolyn Ffosfforws bellach ar gael i’w rhagarchebu o’n siop ar lein. Ar ben yr opsiynau talwch-be-fedrwch-chi arferol, gallwch fanteisio ar gynnig arbennig cyn diwedd Tachwedd 2025, a chael y ddau rifyn am bris gostyngedig.

Mae Ffosfforws yn rhoi llwyfan i 15 cerdd newydd gan 15 bardd cyfoes ym mhob rhifyn, wedi eu curadu gan olygydd gwadd gwahanol ym mhob rhifyn. Buddug Watcyn Roberts fu’n dethol cerddi rhifyn 7 (Gaeaf 2025), ac mae’n bleser gennym gyhoeddi mai’r beirdd y bydd eu gwaith yn ymddangos rhwng y cloriau pinc llachar yw: Courtney-Olwen, Francesca Sciarrillo, Ffion King, Iestyn Gwyn Jones, Jo Heyde, John G. Rowlands, Katrina Moinet, Kayley Roberts, Lois Elenid, Llinos Anwyl, Megan Lloyd, Melda Lois, Nanw Maelor, Nia Hâf a Siân Shakespear.

Yn ogystal a’r rhifyn arferol, ar ei ffordd o’r wasg hefyd mae argraffiad arbennig o’r cylchgrawn sy’n rhoi sylw i gyfieithiadau o waith beirdd cyfoes o wledydd De-Ddwyrain Ewrop. Yn cynrychioli Gwlad Groeg, Serbia, Bosnia a Hertsegofina, Croatia, Slofenia, Twrci, Macedonia, Rwmania, Cosofo a Montenegro; dyma wibdaith i’r rhanbarth trwy eiriau Ajda Bračić, Ana Svetel, Ardiana Shala Prishtina, Danilo Lučić, Efe Duyan, Gonca Özmen, Goran Čolakhodžić, Marija Andrijašević, Marija Dejanović, Maša Seničić, Natasha Sardzoska, Thanos Gogos, Thomas Tsalapatis, Tijana Rakočević a Tudor Creţu.

Archebwch o’n siop ar lein heddiw.

Ffosfforws: Rhifyn 7 - Gaeaf 2025

gol. Buddug Watcyn Roberts / Cyhoeddiadau’r Stamp 2025

argraffiad riso cyfyngedig gan Biscuits Press, Caerdydd / 32t.

Ffosfforws: Rhifyn 8 - Gwanwyn 2026

gol. Grug Muse & Iestyn Tyne / Cyhoeddiadau’r Stamp 2026

argraffiad riso cyfyngedig gan Biscuits Press, Caerdydd / c. 32t.

Previous
Previous

Teyrnged: Nerys Bowen

Next
Next

Cyhoeddiad: Crocodeil yn Berwi Tegell - Non Prys Ifans