Alys Hedd Jones

[2024] Daw Alys Hedd Jones o Gaerdydd. Mae’n 17 oed ac yn byw gyda’i rhieni a’i chwaer fach, Mabli. Mae ar hyn o bryd yn astudio Llenyddiaeth, Drama, Cymdeithaseg a Ffrangeg fel pynciau Lefel A yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern. O oedran ifanc iawn, bu ganddi ddiddordeb mawr ym myd theatr a cherddoriaeth ac mae wrth ei bodd yn ysgrifennu, yn actio, yn canu a chyfansoddi caneuon; gwêl y pethau hyn fel cyfleoedd i ddianc i fydoedd eraill.

Enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd 2024 gyda’r ddrama fer ‘Amserlen’, a gyhoeddwyd fel pamffled gan Gyhoeddiadau’r Stamp.

Amserlen - Alys Hedd Jones
£5.00

DRAMA FER Y FEDAL - EISTEDDFOD YR URDD MALDWYN 2024

Dyma ddeialog fachog, wych, gyda chysyniad syml ond theatrig sy’n llwyddo i ddal y boen a’r dasg amhosib o ollwng gafael ar y gorffennol. Mae’n archwilio rhywbeth mor gymhleth mewn ffordd agos atat a llawn calon.

~ Angharad Lee a Sarah Bickerton

Amserlen

Alys Hedd Jones / Cyhoeddiadau’r Stamp 2024

ISBN 978-1-734794-1-2 / 20t. / £5.00

Celf y clawr: Aur Bleddyn

Previous
Previous

Lois Medi

Next
Next

Vernon Jones