Lois Medi
Daw Lois Medi yn wreiddiol o Benrhosgarnedd, Bangor, ond mae’i theulu bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon. Mae’n 22 oed ac ar fin graddio mewn Anthropoleg Gymdeithasol o’r LSE felly nid yw’n syndod fod ganddi ddiddordeb brwd mewn pobl a’u gwahanol ffyrdd o wneud synnwyr o’r byd; diddordeb sy’n ymestyn i’w gwaith llenyddol.
Bu’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd y Garnedd, Bangor, ac yno yr enillodd ei chadair eisteddfodol gyntaf. I’w rhan hefyd daeth coron eisteddfod Ysgol Tryfan a chadair eisteddfod Ysgol Uwchradd David Hughes, Porthaethwy. Enillodd sawl gwobr yn adrannau llenyddol eisteddfodau’r Urdd, gan gynnwys dod yn drydydd am y Fedal Ddrama yn 2022. Y 2023, dyfarnwyd iddi Dlws D. Gwyn Evans gan Barddas, am y gerdd orau gan feirdd rhwng 16 a 25 oed.
Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024, gyda’i cherdd ‘Gwrthryfela’, a gyhoeddwyd fel pamffled gan Gyhoeddiadau’r Stamp.
CERDD Y GADAIR - EISTEDDFOD YR URDD MALDWYN 2024
Yn y manion dweud yma mae’r farddoniaeth. Nid yw’r thema yn y gerdd yn newydd ond mae arddull ymatalgar a chynnil y bardd a’r ymdriniaeth â’r thema yn taro deuddeg. Mae’n llwyddo i gyfleu hiraeth a thristwch mewn ffordd aeddfed heb bentyrru ansoddeiriau a heb greu darluniau sentimental.
~ Mari George a Tegwyn Pughe Jones
Gwrthryfela
Lois Medi / Cyhoeddiadau’r Stamp 2024
ISBN 978-1-7384794-2-9 / 12t. / £5.00
Celf y clawr: Aur Bleddyn
Trydydd rhifyn cyfnodolyn barddoniaeth Cyhoeddiadau’r Stamp, Ffosfforws, dan olygyddiaeth Llinos Anwyl.
Cerddi newydd gan Alys Hall, Beth Celyn, Esyllt Angharad Lewis, Gwenno Gwilym, Jo Heyde, Lois Medi, Martha Ifan, Meleri Davies, Morgan Owen, Morwen Brosschot, Non Prys Ifans, Rhianwen Roberts, Sam Robinson, Sian Shakespear, Vernon Jones.
£5 (gostyngedig) / £10 (pris arferol) / £25 (copi o Rifyn 3 + noddi ffi un o gyfrannwyr Rhifyn 4, gyda’ch enw i ymddangos yng nghefn y gyfrol)
(Tudalennau enghreifftiol yn cynnwys rhan o gerdd Morwen Brosschot, ‘Rhai cerddi’, ac ysgrif olygyddol Llinos Anwyl)
Ffosfforws: Rhifyn 3 - Gaeaf 2022-23
gol. Llinos Anwyl / Cyhoeddiadau’r Stamp 2023
argraffiad riso cyfyngedig gan Biscuits Press, Caerdydd / 32t.