Llio Elain Maddocks
Mae Llio Elain Maddocks yn fardd ac yn awdur o Ffestiniog, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn cyhoeddi yn bennaf ar ei chyfrif instagram @llioelain. Cyhoeddwyd pamffled o'i cherddi, Stwff ma hogia 'di ddeud wrtha fi, gan Gyhoeddiadau'r Stamp yn 2021.
Cynnwys ar-lein
Newyddion
Pedwerydd rhifyn cyfnodolyn barddoniaeth Cyhoeddiadau’r Stamp, Ffosfforws, dan olygyddiaeth Carwyn Eckley.
Yn cynnwys cerddi newydd gan Aled Lewis Evans, Beca Davies, Brennig Davies, Buddug Watcyn Roberts, Dyfan Lewis, Ela Pari, Elwyn Caera, Jo Heyde, John G. Rowlands, Katie Gramich, Katrina Moinet, Llio Elain Maddocks, Mari Elen, Siw Harston a Vernon Jones.
£5 (gostyngedig) / £10 (pris arferol) / £25 (copi o Rifyn 3 + noddi ffi un o gyfranwyr Rhifyn 6, gyda’ch enw i ymddangos yn nhu blaen y gyfrol)
(Tudalen enghreifftiol: ‘Bwystfil’ gan Brennig Davies)
Ffosfforws: Rhifyn 4 - Haf 2023
gol. Carwyn Eckley / Cyhoeddiadau’r Stamp 2023
argraffiad riso cyfyngedig gan Biscuits Press, Caerdydd / 36t.
Chweched rhifyn cylchgrawn creadigol Y Stamp.
Gyda chyfraniadau gan Marian Brosschot, Paul Eastwood, Sion Teifi Rees, Rhys Trimble, Gruffudd Eifion Owen, Emyr Lewis, Angharad Dafis, Esyllt Lewis, Mari Huws, Llio Maddocks, Karin Iréne Andersson, Sion Tomos Owen, Gweni Llwyd, Caryl Bryn, Ann Barlow, Mary Sinclair, Gwen Máiri Sinclair, Nerys Bowen, Morgan Owen, Sion Elwyn, Judith Musker Turner, Sion Hywyn, Gwen Saunders Jones, Elis Dafydd, Cain Muse a Gareth Evans-Jones.
Celf y Clawr: Marian Brosschot
Golygyddion: Grug Muse, Llyr Titus, Miriam Elin Jones, Iestyn Tyne
Y pamffled cyntaf o gerddi gan Llio Elain Maddocks (@llioelain ar instagram). Dyma gyfrol o ugain o insta-gerddi sydd, os nad ydych chi wedi llwyddo i ddyfalu hynny o'r teitl, yn ymateb i lot o stwff stiwpid ma hogia 'di ddeud wrth yr awdur dros y blynyddoedd. Darluniau gan Erin Thomas.
Stwff ma hogia ‘di ddeud wrtha fi
Llio Elain Maddocks / Cyhoeddiadau’r Stamp 2021
ISBN 978-1-8381989-0-9 / 32t. / £5.00
Pumed rhifyn cylchgrawn creadigol Y Stamp, gyda ffocws arbennig ar fyd y theatr yng Nghymru.
Gyda chyfraniadau gan Steffan Dafydd, Teleri Lea, Melangell Dolma, Efa Lois, Carl Russell Owen, Wyn Mason, Mari Elen, Emyr Morris-Jones, Annes Elwy, Eddie Ladd, Lois Llywelyn, Erin Maddocks, Morgan Owen, Megan John, Ian Rowlands, Efa Dyfan, Llio Mai, Aled Lewis Evans, Gwilym Bowen Rhys, Cadi Dafydd, Beth Celyn, Gwenni Jenkins Jones a Jennifer Bell.
Yn cynnwys atodiad arbennig - detholiad o Y Gweundir, drama gan Morgan Owen.
Golygyddion: Grug Muse, Llyr Titus, Miriam Elin Jones, Iestyn Tyne
Celf y Clawr: Steffan Dafydd
Antholeg o 100 o gerddi Cymraeg gan feirdd cyfoes, i roi ciplun ar farddoniaeth Gymraeg yn y flwyddyn 2020. Gyda chyfraniadau gan Aled Lewis Evans, Ana Chiabrando Rees, Aneirin Karadog, Annes Glynn, Anni Llyn, Anwen Pierce, Cadi Glwys, Caryl Bryn, Catrin Dafydd, Cris Dafis, David Leslie Davies, Dyfan Lewis, Eurig Salisbury, Elen Ifan, Emyr Lewis, Ffion Morgan, Gruffudd Owen, Grug Muse, Gwen Saunders Jones, Gwennan Evans, Gwynfor Dafydd, Hilma Lloyd Edwards, Howard Huws, Hywel Griffiths, Iestyn Tyne, Jacob Morris, Jim Parc Nest, John G. Rowlands, John Williams Bwlchbach, Judith Musker Turner, Llio Elain Maddocks, Llyr Gwyn Lewis, Lowri Hedd, Lyn Erfyl, Manon Awst, Manon Rhys, Mari Sion, Matthew Tucker, Megan Elenid Lewis, Menna Elfyn, Menna Medi, Mererid Hopwood, Miriam Elin Jones, Morgan Owen, Morgan Rhys Powell, Morwen Brosschot, Myfanwy Bennett Jones, Nerys Rees Bowen, Osian Wyn Owen, Osian Rhys Jones, Owain Rhys, Owen Tydur Jones, Philippa Gibson, Rhys Iorwerth, Rhys Trimble, Robert Lacey, Sara Borda Green, Sara Louise Wheeler, Sian Northey, Sion Tomos Owen, Steffan Nicholas, Tudur Hallam a Vernon Jones.
Dweud y Drefn pan nad oes Trefn: Blodeugerdd 2020
Grug Muse & Iestyn Tyne (gol.) / Cyhoeddiadau’r Stamp 2020
ISBN 978-1-9995870-8-6 / 160t. / £12.00
Clawr: Ani Saunders
Pedwerydd rhifyn cylchgrawn creadigol Y Stamp.
Gyda chyfraniadau gan Bethan Scorey, Morwen Brosschot, Mihangel Morgan, Lora Gwyneth, Ceri Rhys Matthews, Llio Maddocks, Holly Gierke, Sam Jones, Mari Elen, Gareth Evans-Jones, Becca Voelcker, Sion Hywyn, Cadi Dafydd, Gethin Griffiths, Sophie Ann Hughes ac Owain Evans.
Golygyddion: Grug Muse, Llyr Titus, Miriam Elin Jones, Iestyn Tyne
Celf y Clawr: Bethan Scorey