Ffosfforws 4
from £5.00

Pedwerydd rhifyn cyfnodolyn barddoniaeth Cyhoeddiadau’r Stamp, Ffosfforws, dan olygyddiaeth Carwyn Eckley.

Yn cynnwys cerddi newydd gan Aled Lewis Evans, Beca Davies, Brennig Davies, Buddug Watcyn Roberts, Dyfan Lewis, Ela Pari, Elwyn Caera, Jo Heyde, John G. Rowlands, Katie Gramich, Katrina Moinet, Llio Elain Maddocks, Mari Elen, Siw Harston a Vernon Jones.

£5 (gostyngedig) / £10 (pris arferol) / £25 (copi o Rifyn 3 + noddi ffi un o gyfranwyr Rhifyn 6, gyda’ch enw i ymddangos yn nhu blaen y gyfrol)

(Tudalen enghreifftiol: ‘Bwystfil’ gan Brennig Davies)

Ffosfforws: Rhifyn 4 - Haf 2023

gol. Carwyn Eckley / Cyhoeddiadau’r Stamp 2023

argraffiad riso cyfyngedig gan Biscuits Press, Caerdydd / 36t.

Y Stamp: Rhifyn 5 - Haf 2018 [Y THEATR]
£4.00

Pumed rhifyn cylchgrawn creadigol Y Stamp, gyda ffocws arbennig ar fyd y theatr yng Nghymru.

Gyda chyfraniadau gan Steffan Dafydd, Teleri Lea, Melangell Dolma, Efa Lois, Carl Russell Owen, Wyn Mason, Mari Elen, Emyr Morris-Jones, Annes Elwy, Eddie Ladd, Lois Llywelyn, Erin Maddocks, Morgan Owen, Megan John, Ian Rowlands, Efa Dyfan, Llio Mai, Aled Lewis Evans, Gwilym Bowen Rhys, Cadi Dafydd, Beth Celyn, Gwenni Jenkins Jones a Jennifer Bell.

Yn cynnwys atodiad arbennig - detholiad o Y Gweundir, drama gan Morgan Owen.

Golygyddion: Grug Muse, Llyr Titus, Miriam Elin Jones, Iestyn Tyne

Celf y Clawr: Steffan Dafydd

Ffosfforws 2
from £5.00

Ail rifyn cyfnodolyn barddoniaeth Cyhoeddiadau’r Stamp, Ffosfforws, dan olygyddiaeth Mari Elen.

Cerddi newydd sbon gan Buddug Roberts, Dyfan Lewis, Gruffudd Gwynn, Jo Heyde, Katie Gramich, Meleri Davies, Miriam Elin Jones, Morwen Brosschot, Osian Wynn Davies, Sam Robinson, Siân Shakespear, Siôn Tomos Owen, Sophie Roberts, Tegwen Bruce-Deans a Vernon Jones.

£5 (gostyngiad) / £10 (pris arferol) / fersiwn ddigidol

(Tudalennau enghreifftiol yn cynnwys rhannau o gerdd Katie Gramich, ‘Clytiau’, ac ysgrif olygyddol Mari Elen)

Y Stamp: Rhifyn 4 - Gwanwyn 2018
£4.00

Pedwerydd rhifyn cylchgrawn creadigol Y Stamp.

Gyda chyfraniadau gan Bethan Scorey, Morwen Brosschot, Mihangel Morgan, Lora Gwyneth, Ceri Rhys Matthews, Llio Maddocks, Holly Gierke, Sam Jones, Mari Elen, Gareth Evans-Jones, Becca Voelcker, Sion Hywyn, Cadi Dafydd, Gethin Griffiths, Sophie Ann Hughes ac Owain Evans.

Golygyddion: Grug Muse, Llyr Titus, Miriam Elin Jones, Iestyn Tyne

Celf y Clawr: Bethan Scorey

Triongl (cyfyngedig i 100 copi)
£6.00

Comisiynwyd cerddi’r pamffled hwn, yn Gymraeg, Gwyddeleg a Saesneg, fel rhan o brosiect Triongl a ddatblygwyd gan ganolfan gelfyddydau Pontio i gefnogi gweithwyr llawrydd ym maes y celfyddydau dros gyfnod y pandemig. Gwahoddwyd Iestyn Tyne i guradu gwaith gan bymtheg bardd oedd a chysylltiadau amrywiol gyda gogledd-orllewin Cymru, mewn ymateb i gyfres o ddelweddau a dynnwyd gan y ffotograffydd Lena Jeanne o Borthaethwy yn ystod y cyfnod clo.

Y beirdd: Annes Glynn, Ciara Ní É, Caryl Bryn, Catrin Menai, Glyn F. Edwards, Iestyn Tyne, Lowri Hedd, Marged Elen, Mari Elen, Morwen Brosschot, Roísín Sheehy, Rhys Trimble, Sian Miriam, Yasus Afari, Zoe Skoulding.

Triongl

Iestyn Tyne (gol.) / Cyhoeddiadau’r Stamp 2021

52t. / £6.00

Previous
Previous

Elwyn Caera

Next
Next

Llio Elain Maddocks