Tegwen Bruce-Deans
Mae Tegwen Bruce-Deans yn byw ym Mangor, er iddi gael ei geni yn Llundain a’i magu yng nghefnwlad Maesyfed. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir
Gaerfyrddin 2023, a chyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o gerddi, Gwawrio (Cyhoeddiadau Barddas), ychydig wythnosau yn ddiweddarach. Y flwyddyn ganlynol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Maldwyn 2024, enillodd y Goron - yr ail yn unig i fod wedi ennill dwy brif wobr lenyddol yr Urdd. Ynghyd â’i gwaith fel cynhyrchydd i BBC Radio Cymru, mae Tegwen hefyd yn un o gydlynwyr casgleb greadigol Kathod ac yn rhan o gynllun Pencerdd Llenyddiaeth Cymru ar gyfer 2024-25.
STORI FER Y GORON - EISTEDDFOD YR URDD MALDWYN 2024
Yn ddi-gwestiwn, dyma ddarn mwyaf caboledig a soffistigedig y gystadleuaeth a’r darllenydd yn medru synhwyro fod yna law brofiadol wrth y llyw yn ein harwain ar y daith emosiynol […] Wrth ddarllen, roedd y ddwy ohonom yn llwyr ymgolli yn y sefyllfa ac yn anghofio mai beirniadu oeddem ni. Dyna ydi dawn llenor – i greu rhith y gallwn ei gredu gan fynd â’n meddyliau i lefydd newydd.
~ Elin Llwyd Morgan a Caryl Lewis
Coch
Tegwen Bruce-Deans / Cyhoeddiadau’r Stamp 2024
ISBN 978-1-7384794-3-6 / 16t. / £5.00
Celf y clawr: Aur Bleddyn
Pumed rhifyn cyfnodolyn barddoniaeth gyfoes Ffosfforws, dan olygyddiaeth wadd Miriam Elin Jones.
Yn cynnwys cerddi newydd gan Elwyn Caera, Greta Sion, Gruff Gwynn, Iwan Tomos Kellett, Jo Heyde, Katrina Moinet, Lois Elenid, Megan Lloyd (papur), Meleri Davies, Sian Northey, Siân Shakespear, Siôn Pennar, Siw Harston, Tegwen Bruce-Deans a Vernon Jones.
£2.50 (digidol) / £7.50 (print, gostyngiad) / £10 (pris arferol) / £25 (copi o rifyn 5 + noddi ffi un o gyfrannwyr Rhifyn 6, gyda’ch enw i ymddangos yn nhu blaen y gyfrol)
Tudalennau enghreifftiol: Miriam Elin Jones (golygyddol) / Siôn Pennar (‘Ar Dram, Poznán’)
Ffosfforws: Rhifyn 5 – Gwanwyn 2024
gol. Miriam Elin Jones / Cyhoeddiadau’r Stamp 2024
argraffiad riso cyfyngedig gan Biscuits Press, Caerdydd / 32t.
Ail rifyn cyfnodolyn barddoniaeth Cyhoeddiadau’r Stamp, Ffosfforws, dan olygyddiaeth Mari Elen.
Cerddi newydd sbon gan Buddug Roberts, Dyfan Lewis, Gruffudd Gwynn, Jo Heyde, Katie Gramich, Meleri Davies, Miriam Elin Jones, Morwen Brosschot, Osian Wynn Davies, Sam Robinson, Siân Shakespear, Siôn Tomos Owen, Sophie Roberts, Tegwen Bruce-Deans a Vernon Jones.
£5 (gostyngiad) / £10 (pris arferol) / fersiwn ddigidol
(Tudalennau enghreifftiol yn cynnwys rhannau o gerdd Katie Gramich, ‘Clytiau’, ac ysgrif olygyddol Mari Elen)