Cyhoeddiad: Crocodeil yn Berwi Tegell - Non Prys Ifans

Cyhoeddir Crocodeil yn Berwi Tegell, y pamffled cyntaf o farddoniaeth Non Prys Ifans, fis Tachwedd.

Trawma a roddodd fywyd i’r cerddi sydd yn y casgliad hwn, ond crebwyll a chrefft bardd a’u gwnaeth yn ddarnau i syfrdanu darllenwyr. Fel hyrddiau o alar, mae’r cerddi hyn hefyd bron yn afreolus eu hamrywiaeth - o fyfyrdodau tameidiog i lif ymwybod rhyddieithol. Ac eto, er mor amrwd, nid casgliad uncyfeiriad sy’n dadbacio ac yn dadlwytho yn unig mo hwn, gan fod yma fardd all weld fflachiadau o harddwch - ac edrych am ymlaen - hyd yn oed o lygad poen annirnad.

Mae Non yn byw yng Nghaernarfon gyda’i theulu bach a Pom Pom, y ci boncyrs. Pan na fydd yn sgwennu cerddi, mae’n gweithio fel Therapydd Iaith a Lleferydd. Gellir ei chlywed yn darllen ei gwaith yn gyhoeddus am y tro cyntaf mewn digwyddiad dan ofal Cyhoeddiadau’r Stamp yn Stiwdio Cadnant, Caernarfon, nos Sadwrn yma, 18 Hydref.

Mae Crocodeil yn Berwi Tegell bellach ar gael i’w ragarchebu o’n siop ar-lein YMA; cofiwch fod pob rhagarcheb yn ein cefnogi fel gwasg annibynnol wrth i ni barhau i gyhoeddi gwaith newydd sbon yn y Gymraeg heb nawdd cyhoeddus.

Rhybudd cynnwys: Mae cerddi’r casgliad hwn yn ymateb yn onest i ddigwyddiadau trawmatig ym mywyd yr awdur. Ceir cyfeirio helaeth at hunanladdiad, gan gynnwys disgrifiadau graffig, yn ogystal ag ymateb byrdymor i driniaeth IVF a genedigaeth drawmatig. Gellir dod o hyd i restr o adnoddau defnyddiol yng nghefn y pamffled.

Crocodeil yn Berwi Tegell

Non Prys Ifans / Cyhoeddiadau’r Stamp 2025

ISBN 978-1-0682167-3-2 / 24t. / £6.50

Tudalen enghreifftiol:

Previous
Previous

Cyhoeddiadau: Ffosfforws 7+8

Next
Next

Galwad agored: Ffosfforws 8