Galwad agored: Ffosfforws 8
Mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn gwahodd beirdd i anfon eu cerddi er ystyriaeth i’w cyhoeddi yn rhifyn Hydref-Gaeaf 2025 cyfnodolyn FFOSFFORWS. Mae’r cyhoeddiad hwn yn agored i gerddi o bob math ac ar unrhyw thema. Rydym yn croesawu’r caeth a’r rhydd, y traddodiadol a’r avant garde; rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn gwaith sy’n arbrofol o ran thema, ffurf ac arddull, a gwaith gan feirdd o gefndiroedd sydd wedi’u lleiafrifo.
Darllenwch y gofynion cyflwyno yn ofalus cyn anfon eich gwaith at cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com, gan nodi FFOSFFORWS 8 fel pwnc. Gallwch hefyd anfon eich cerddi trwy’r post i Bron Llewelyn, Waunfawr, Caernarfon, LL55 4SD, erbyn y dyddiad cau.
Golygydd gwadd: Buddug Watcyn Roberts
Golygyddion cynorthwyol: Grug Muse & Iestyn Tyne
Dyddiad cau: HANNER NOS, DYDD SUL 31 AWST 2025
GOFYNION
Gofynnir i chi gyflwyno hyd at 3 cerdd unigol neu un dilyniant o hyd at 3 cerdd. Ni fyddwn yn dewis mwy nag un gerdd gan un bardd oni bai am gyhoeddi dilyniannau.
Nid oes cyfyngiad ar hyd cerddi unigol.
Dylai’r cerddi fod yn waith gwreiddiol y sawl sy’n eu cyflwyno, ac ni ddylent fod wedi eu cyhoeddi mewn mannau eraill eisoes.
Oherwydd ymarferoldeb argraffu cerddi gweledol (e.e. cerddi collage neu ffoto-haiku) trwy ddull risograff, cerddi testun yn unig y byddwn yn eu derbyn ar gyfer Ffosfforws y tro hwn. Cysylltwch os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn.
Caiff y cerddi eu dewis gan y golygydd gwadd, gyda chefnogaeth y ddau olygydd cynorthwyol; bydd y broses o ddethol yn cael ei gynnal heb i’r golygydd gwadd weld enwau’r beirdd, er mwyn sicrhau diduedd-dra.
Bydd penderfyniad y golygyddion yn derfynol, ac ni fyddwn yn cynnig sylwadau yn ddiofyn ar gerddi a wrthodir.
Gofynnir i chi gyflwyno cerddi yn eu ffurf terfynol; ni fyddwn yn disgwyl i chi ailddrafftio gwaith a ddewisir, ond gallwn gynnig awgrymiadau gramadegol. Byddwn yn darparu proflen i chi ei gwirio cyn argraffu.
Byddwn yn cynnig cydnabyddiaeth o £15 am bob cerdd neu ddilyniant a gyhoeddir yn Ffosfforws. Byddwch yn derbyn manylion ar gyfer hyn yn dilyn ein penderfyniad.