Cyhoeddiad: Diwedd y Gân – Elin Williams

‘Diwedd y Gân’ gan Elin Williams yw Drama Fer y Fedal yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025, ac fe gyhoeddir y ddrama fer yn dilyn y ddefod heddiw fel rhan o gyfres Cyhoeddiadau’r Stamp o bamffledi o waith buddugol eisteddfodau’r Urdd.

Mae Elin yn byw gyda’i theulu ar fferm ym Metws Gwerful Goch, ac ar ei blwyddyn olaf yn Ysgol Uwchradd Brynhyfryd. Mae’n aelod o Aelwyd Llangwm a Chlwb Ffermwyr Ifanc Uwchaled, ac yn bwriadu mynd yn ei blaen i astudio’r Gyfraith a Chymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd beirniaid cystadleuaeth y Fedal Ddrama, Heiddwen Tomos a Sera Moore Williams, fod yma ‘ddyfnder a dealltwriaeth wirioneddol o gymeriadau y gellir yn hawdd uniaethu â nhw. Mae’r neges yn gafael a’r tynerwch rhwng y ddau gymeriad yn cynnal y ddrama.’

Gallwch bellach brynu copi o Diwedd y Gân ar y maes ym Mharc Margam, a’i archebu o’n siop ar-lein ar ffurf pamffled brint neu gopi digidol. Bydd yr holl siopau stampus yn stocio pamffledi cyfansoddiadau’r Urdd o wythnos nesaf.

 

Diwedd y Gân

Elin Williams / Cyhoeddiadau’r Stamp 2025

ISBN 978-1-7384794-7-4 / 20t. / £5.00 (£2.50 – digidol)

Celf y clawr: Owain Sparnon

 

Tudalennau enghreifftiol:

Previous
Previous

Cyhoeddiad: Tywod - Elain Roberts

Next
Next

Cyhoeddiad: Nôl Iaith – clare. e. potter