Cyhoeddiad: Nôl Iaith – clare. e. potter

Bydd Cyhoeddiadau’r Stamp yn rhyddhau casgliad Cymraeg cyntaf y bardd adnabyddus clare e. potter, pamffled dan y teitl Nôl Iaith, fis Gorffennaf eleni, ac rydym yn falch o ddatgelu clawr y casgliad ac agor y cyfnod rhagarchebu.

Dyma’r ail o ddwy bamffled fydd yn cael eu rhyddhau ym mis Gorffennaf 2025, yn dilyn rhannu clawr Sgwâr gan Steff ap Carys yn gynharach heddiw. Mae’r ddwy gyfrol bellach ar gael i’w rhagarchebu ar y wefan hon.

Mae clare e. potter yn dod yn ôl at yr iaith Gymraeg gyda Nôl Iaith. Fel drudwy, mae hi wedi casglu tameidiau o’i Chymraeg at ei gilydd yn y pamffled hwn – o’i chof plentyndod, gan ffrindiau, gan eiriaduron – er mwyn saernïo cerddi sy’n canu. Fel torluniau, fel casglu cregyn ar y traeth, fel creu swper o’r stwff sy’n y cwpwrdd, mae’n defnyddio’r Gymraeg mewn ffordd chwareus ac annisgwyl.

Casgliad diweddaraf clare e. potter yn Saesneg yw Healing the Pack (Verve, 2024), ond dyma’r tro cyntaf iddi gyhoeddi cyfrol o’i barddoniaeth yn y Gymraeg. Daw clare o Gefn Fforest ac yn ogystal â bod yn fardd, mae’n gyflwynydd radio a astudiodd radd mewn llenyddiaeth Affro-Caribïaidd yn Mississipi ac a fu’n dysgu yn New Orleans. Bu’n un o griw Awduron wrth eu Gwaith Llenyddiaeth Cymru a Gŵyl y Gelli, ac yn Fardd y Mis Radio Cymru.

Gallwch ragarchebu Nol Iaith a Sgwâr heddiw o’n siop ar-lein, a thrwy hynny gefnogi’r gwaith o gyhoeddi yn annibynnol.

 

Nôl Iaith

clare e. potter / Cyhoeddiadau’r Stamp 2025

ISBN 978-1-0682167-2-5 / 24t. / £6.50

Celf y clawr: Esyllt Angharad Lewis

 

Tudalen enghreifftiol:

Previous
Previous

Cyhoeddiad: Diwedd y Gân – Elin Williams

Next
Next

Cyhoeddiad: Sgwâr – Steff ap Carys