Cyhoeddiad: Tywod - Elain Roberts

‘Tywod’ gan Elain Roberts yw casgliad Cerddi’r Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025, ac fe gyhoeddir y gyfrol yn dilyn y ddefod heddiw fel rhan o gyfres Cyhoeddiadau’r Stamp o bamffledi o waith buddugol eisteddfodau’r Urdd. Tywod yw’r ail yng nghyfres eleni, yn dilyn Diwedd y gân gan Elin Williams, enillydd y Fedal Ddrama ddydd Mawrth.

Mae Elain Roberts yn enw cyfarwydd i ddilynwyr cystadlaethau llenyddol Eisteddfod yr Urdd, gan mai hi oedd enillydd y Fedal Ddrama ddwy flynedd yn ôl, yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023. Daeth hi hefyd yn drydydd yng nghystadleuaeth y Goron yn 2022. Elain yw’r cyntaf erioed i fod wedi ennill Medal Ddrama a Chadair yr Urdd.

Cafodd ei magu ym Mhentre’r Bryn ger Ceinewydd. Aeth i’r brifysgol ym Mryste i astudio Ffrangeg a Gwleidyddiaeth ac ar ôl graddio, symudodd gartref i weithio yn swyddfa etholaeth Ben Lake MS. Ym mis Chwefror eleni, symudodd i Lundain i ddechrau ar swydd newydd gyda Phlaid Cymru yn San Steffan.

Dywedodd beirniaid cystadleuaeth y Gadair, Tudur Hallam a Grug Muse, mai trwy ‘ddelwedd y tywod sy’n siapio’r cof ac sy’n croesawu’r bardd yn ôl i’w fro, [y] llwydda’r bardd i’n hargyhoeddi bod hwn yn bwnc o bwys, a hon yn gerdd sy’n haeddu ein sylw a’n myfyrdod.’

Gallwch bellach brynu copi o Tywod ar y maes ym Mharc Margam, a’i archebu o’n siop ar-lein ar ffurf pamffled brint neu gopi digidol. Bydd yr holl siopau stampus yn stocio pamffledi cyfansoddiadau’r Urdd o wythnos nesaf.

 

Tywod

Elain Roberts / Cyhoeddiadau’r Stamp 2025

ISBN 978-1-7384794-8-1 / 12t. / £5.00 (£2.50 – digidol)

Celf y clawr: Owain Sparnon

 

Tudalennau enghreifftiol:

Previous
Previous

Cyhoeddiad: Dod o hyd i’r geiriau - Mali Elwy

Next
Next

Cyhoeddiad: Diwedd y Gân – Elin Williams