Cyhoeddiad: Dod o hyd i’r geiriau - Mali Elwy

‘Dod o hyd i’r geiriau’ gan Mali Elwy yw Stori Fer y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025, ac fe gyhoeddir y gyfrol yn dilyn y ddefod heddiw fel rhan o gyfres Cyhoeddiadau’r Stamp o bamffledi o waith buddugol eisteddfodau’r Urdd. Mae Dod o hyd i’r geiriau yn cyfannu cyfres eleni, yn dilyn cyhoeddi Diwedd y gân gan Elin Williams a Tywod gan Elain Roberts yn gynharach yn yr wythnos.

Daw Mali o Dan-y-Fron ger Llansannan, ond mae hi bellach wedi ymgartrefu yn y Felinheli. Mae ganddi radd diweddar mewn Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bangor, ac mae hi’n gweithio fel hwylusydd llawrydd yn ardal Gwynedd.

Cafwyd cystadleuaeth neilltuol gryf am y Goron eleni, gydag 17 o ymgeiswyr, a’r beirniaid – Menna Elfyn ac Emyr Lewis – yn fodlon fod dros hanner y cynigion yn deilwng o’r wobr. Am yr enillydd, dywedodd Menna Elfyn ei bod yn ‘awdur aeddfed sy’n gwybod sut i saernio stori yn gelfydd. Dyma lais newydd cyffrous’.

Gallwch bellach brynu copi o Dod o hyd i’r geiriau ar y maes ym Mharc Margam, a’i archebu yma ar lein ar ffurf pamffled brint neu gopi digidol. Bydd yr holl siopau stampus yn stocio pamffledi cyfansoddiadau’r Urdd o wythnos nesaf.

Gallwch hefyd archebu casgliad cyflawn pamffledi Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025, am bris gostyngedig o £12.

 

Dod o hyd i’r geiriau

Mali Elwy / Cyhoeddiadau’r Stamp 2025

ISBN 978-1-7384794-9-8 / 28t. / £5.00 (£2.50 – digidol)

Celf y clawr: Owain Sparnon

Rhybudd cynnwys: Yn ogystal a iaith gref a chyfeiriadau rhywiol ar adegau, mae’r darn hwn yn ymdrin a cholli babi.

 

Tudalennau enghreifftiol:

Next
Next

Cyhoeddiad: Tywod - Elain Roberts