Newyddion: Buddug Watcyn Roberts - golygydd gwadd Ffosfforws 8

Buddug Watcyn Roberts fydd golygydd gwadd wythfed rhifyn Ffosfforws, cyfnodolyn barddoniaeth gyfoes Cyhoeddiadau’r Stamp. Mae Buddug yn fardd sydd wedi cyhoeddi ei barddoniaeth yn rhai o rifynnau blaenorol Ffosfforws, ac mae’n hynod o braf ei chroesawu nol i guradu’r casgliad nesaf o 15 cerdd.

Yn lle bywgraffiad amhersonol, dyma ei chyflwyno yn ei geiriau ei hun:

‘Dwi’n sgwenwraig a hwylusydd llawrydd. Dwi’n cael creu a chwarae efo geiriau fel gyrfa a thrwy hynny’n cyfarfod bob math o bobl anhygoel sy’n llunio’n cymunedau lliwgar ni. Law yn llaw a hyn dwi’n gweithio ar ddoethuriaeth mewn ysgrifennu creadigol gyda phwyslais ar gyd-greu â’r gymuned. Sgwennu ydi fy myd i felly mae’r gwahoddiad yma i fod yn olygydd yn golygu’r byd a mwy - yn eironig ddigon, mae’n anodd ei roi mewn geiriau!’

Fel yr arfer, bydd galwad agored am fis i feirdd yrru eu gwaith i’w ystyried gan y golygydd gwadd, a bydd hynny’n digwydd trwy gydol mis Awst. O ran yr hyn y bydd yn chwilio amdano wrth ddewis a dethol y cerddi i’w cyhoeddi, dywed Buddug:

Dwi’n licio sŵn, dwi’n licio patrwm, dwi’n licio odla’ a mymryn o chwara’. Blerwch a bachog i mi - dwi’m yn poeni am sillafa’ na sillafu, ond dwisho teimlo, gwenu neu grio, chwerthin a dawnsio efo’r hyn sy’n dod i’n nwylo.

Cadwch lygad ar ddydd Gwener 1 Awst am holl fanylion ein galwad agored.

Yn y cyfamser, beth am gael golwg ar un o rifynnau’r gorffennol? Ar gael yn ddigidol ac fel copis print (cyfyngedig) o siop y wefan.

Next
Next

Cyhoeddiad: Dod o hyd i’r geiriau - Mali Elwy