Cyhoeddiad: Gne - Morgan Owen

Y casgliad unigol nesaf o farddoniaeth a gyhoeddir gan griw'r Stamp fydd Gne, pamffled diweddaraf Morgan Owen.

Er mai enwau arlliwiau sy'n deitlau i gerddi Gne – a 'gne' ei hunan yn hen air am arlliwiau – nid dim ond cerddi am liwiau anghyfarwydd yw'r rhain.Barddoni am y mannau canol amwys y mae Morgan Owen yn ei gasgliad newydd – yr hyn sydd rhwng pethau eraill pan fo ymylon yn cwrdd a chydgymysgu. Dyma waith sy'n herio'r syniadau rhy gadarn am ble mae pethau yn dechrau ac yn gorffen; ac fel y gall darllenwyr ei ddisgwyl gan Morgan Owen bellach, mae’r ysgrifennu am fyd natur a lle mor gywrain ag erioed. 

Dyma’i drydydd casgliad gyda Chyhoeddiadau'r Stamp, yn dilyn pamffled a chyfrol a ryddhawyd yn 2019; moroedd/dŵr a Bedwen ar y lloer. moroedd/dŵr oedd enillydd Gwobr Michael Marks am farddoniaeth yn yr ieothoedd Celtaidd y flwyddyn honno. Ers hynny mae wedi rhyddhau pamffled o ysgrifau, Ymgloi (hunan-gyhoeddiad, 2020) a phamffled o gerddi ochr yn ochr â ffotograffau Catrin Menai, Ysgall (Gwasg Pelydr, 2021). Mae'n hynod braf ei groesawu'n ôl i stabl Cyhoeddiadau'r Stamp gyda'i waith diweddaraf, fel un o'r beirdd cyntaf un i gyhoeddi yng nghylchgrawn Y Stamp yn 2017.

Daw o Ferthyr Tudful yn wreiddiol, ond mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Yn fardd ac ysgrifwr toreithiog, ymhlith ei lwyddiannau diweddaraf mae cipio gwobrau'r Llên Meicro a'r Soned yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y llynedd. 

Cyfosodir geiriau Morgan yn gelfydd â darluniau dyfrlliw gan Manon Dafydd, yr artist o'r Felinheli a dylunydd cylchgrawn creadigol Codi Pais.

Bydd Gne ar gael fis Ebrill, ond gallwch ragarchebu'r casgliad rŵan, a thrwy hynny gefnogi'r fenter o'i gyhoeddi gan wasg fechan annibynnol, wirfoddol a chydweithredol.

[RHAGARCHEB] Gne - Morgan Owen
£7.00

Morgan Owen / Cyhoeddiadau’r Stamp 2026

ISBN 978-1-0682167-6-3 / c.24t. / £7.50

Celf y clawr/darluniau: Manon Dafydd

Tudalen enghreifftiol:

[RHAGARCHEB] Casgliad Morgan Owen
£15.00
Next
Next

Newyddion: Cariad Cymru a Chwrdistan