Newyddion: Cariad Cymru a Chwrdistan
Cyfnewidfa ddiwylliannol Cymraeg a Chwrdeg yn rhoi gobaith i’r gymuned
Nos Fawrth (10 Chwefror) ym Mhafiliwn Grange, Caerdydd, daeth criw ynghyd i ddathlu llenyddiaeth Gymraeg a Chwrdaidd. Roedd y digwyddiad yn codi arian i bobl sydd wedi’u dadleoli ac sydd angen cymorth meddygol yng Nghwrdistan (Rojava) ac yn archwilio cysylltiadau rhwng Cymru a Chwrdistan.
Un o’r darllenwyr oedd Raz Shexany, bardd Cwrdaidd sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Rhoddodd ei gwaith yn ei gyd-destun, gan dynnu sylw at y modd y mae coloneiddio gan gymdogion pwerus yn rhan o hanes y Cymry a’r Cwrdiaid ill dau – ac effaith hyn ar ddiwylliant ac iaith.
Mae 50 miliwn o bobl Gwrdaidd o fewn cenedl a rennir rhwng pedair gwladwriaeth. Mae’r Cwrdiaid wedi wynebu cydffurfiad gorfodol, anghyfreithloniad eu hiaith, a sawl ymgais ar hil-laddiad. Er i bobl Gwrdaidd ddioddef coloneiddiad o fath llawer dyfnach a mwy treisgar, roedd y ddeialog ar y noson yn cydnabod y ffaith y gall pobl Gwrdaidd yng Nghymru weld cysylltiad rhwng y grymoedd hanesyddol sydd ar waith yng Nghymru ac yn eu mamwlad eu hunain. Un enghraifft o hyn yw boddi Tryweryn, sy’n adleisio boddi Hasankeyf yng ngogledd Cwrdistan – dinas a safai ers 12,000 o flynyddoedd – er mwyn echdynnu adnoddau naturiol. Mae’r prosesau o ymosod ar y bobl, yr iaith a’r diwylliant ar yr un continwwm ag agweddau sy’n gyfarwydd yma yng Nghymru – ymyleiddio’r Gymraeg, hanes, a phobl.
Dysgom fod llawer o bobl Gwrdaidd wedi ymgartrefu yng Nghymru. Clywyd hefyd am drychinebau megis ymgyrch gwladwriaeth Twrci i losgi dros 3,000 o bentrefi yn ystod y 1990au; hil-laddiad Anfal, pryd y lladdwyd o leiaf 182,000 o bobl yn Irac; hil-laddiad Yezidi yn Syria yn 2014, a’r niferoedd arswydus o bobl Gwrdaidd a ddienyddir yn flynyddol gan drefnlywodraeth Iran. Wrth i bobl Gwrdaidd frwydro i gadw pen uwchben y dŵr, cefnogi teuluoedd sy’n parhau i fyw dan amodau gormesol a threisgar, ac ymdrechu i gadw’u hiaith a’u diwylliant yn fyw yn y diaspora, maent yn enghraifft loyw o ysbryd ac ystyr ‘Yma o Hyd’.
Perfformiodd Raz gerdd mewn Cwrdeg Soranaidd, a dilynwyd hyn gyda chyfieithiad o’r gerdd i’r Gymraeg gan Meleri Davies (awdur Rhuo ei Distawrwydd Hi); cerdd sy’n darlunio grym menywod Cwrdaidd yn wyneb trais patriarchaidd – lladd er anrhydedd, yn yr achos hwn. Esboniodd y bardd fod gwreiddiau’r arfer hwn yng ngholoneiddiad y bobl.
Bu i’r Cymro o brif weinidog Prydain, Lloyd George, chwarae rhan yn y trefedigaethu hwn gyda llunio Cyfamod Lausanne er mwyn rhannu Cwrdistan yn bedwar darn, gan achosi canrif o dywallt gwaed. Yr addewid gwreiddiol oedd y byddai’r Cwrdiaid yn derbyn mamwlad gan rymoedd Ewrop – ond defnyddiwyd tacteg rhannu a rheoli yn eu herbyn yn y pendraw.
Yn ddiweddar, bu i brotestiadau Cwrdaidd yng Nghaerdydd yn erbyn yr ymosodiadau ar orllewin Cwrdistan (Rojava) ennyn sylwadau megis “Beth sydd gan Cymru i’w wneud â hyn?”. Mae Cwrdistan yn enghreifftio’n glir y modd yr ydym oll yn cydgysylltu a chydblethu, ac na ellir gwahanu cyfiawnder yng Nghymru a chyfiawnder rhyngwladol.
Roedd y noson hefyd yn cynnwys lansiad y gyfrol Ni Allwn-Allwn Ni gan yr awdur Diffwys Criafol. Dyma gasgliad byr o ysgrifau sy’n tynnu ar athroniaeth y Mudiad Cwrdaidd a democratiaeth gydffederal – model di-wladwriaeth a gwrth-gyfalafol ar gyfer rhyddid cenedlaethol. Cyhoeddwyr Ni Allwn-Allwn Ni yw Cyhoeddiadau’r Stamp, gwasg radical, avant garde yn yr iaith Gymraeg, nad yw’n derbyn unrhyw nawdd cyhoeddus er mwyn cadw annibyniaeth lwyr.
Cafwyd cyfle hefyd i roi cynnig ar greu afal garu Cwrdaidd – Sêva Mêxekrêj – sef afal wedi’i thrywanu â chlofau. Gall bara am hyd at ddeng mlynedd oherwydd rhinweddau gwrthseptig y clôf. Fel symbol o gariad ac amynedd, nid yw’n rhy anhebyg i’r arfer o gerfio llwyau caru. Mynegwyd arwyddocad yr afal garu ar adeg pan fo pobl Cwrdistan angen ein cydsafiad – mae dinas Gwrdaidd Kobani yn parhau dan warchae, a thros 300,000 wedi’u dadleoli yn dilyn y gwrthdaro mwyaf diweddar. Gobaith y trefnwyr a’r cyfranogwyr oedd y byddai dod ynghyd mewn cyfnewidfa ddiwylliannol yn weithred fechan i ddangos nad yw pobl Gwrdaidd ar eu pennau’u hunain, gyda dymuniad i ddysgu gan eu gwytnwch wrth i ni wynebu bygythiadau o du ffasgwyr gydag etholiad ar y gorwel yma yng Nghymru. Y teimlad yw mai cymuned a chysylltiad fydd arfau cryfaf y gwrthsafiad yn eu herbyn.
Dogfennwyd y noson ar gyfer darllediad ar deledu Cwrdaidd gan Sara, aelod o Gymdeithas Gwrdaidd Cymru Gyfan, a’r gobaith yw y trefnir rhagor o ddigwyddiadau llenyddol Cymraeg a Chwrdeg yn y dyfodol.