Cyhoeddiad: Tishe plant? - Glain Llwyd
Tishe plant? gan Glain Llwyd yw drama fer y Fedal yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026, a chyhoeddir y sgript yn dilyn y ddefod heddiw (dydd Mercher 27 Mai) fel rhan o gyfres Cyhoeddiadau’r Stamp o bamffledi o waith buddugol eisteddfodau’r Urdd.
Daw Glain Llwyd o Dalybont ger Aberystwyth, ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd yn dilyn graddio o gwrs BA Perfformio Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru. Mae'n aelod o Gwmni Theatr yr Urdd, ac ym mis Awst 2026 bydd yn chwarae un o'r prif rannau yn y sioe gerdd newydd Calon yng Nghanolfan y Mileniwm.
Dywedodd beirniaid cystadleuaeth y Fedal Ddrama, Gareth Evans-Jones a Mared Llywelyn, fod Glain yn ddramodydd 'hynod gyffrous ac aeddfed'.
Gallwch brynu copi o Tishe plant? ar y maes ym Môn – o Siop yr Urdd a stondin Awen Menai – a'i archebu o'n siop ar-lein ar ffurf pamffled brint neu ddigidol (cliciwch isod). Bydd nifer o siopau llyfrau ar draws y wlad yn stocio pamffledi llenyddol Eisteddfod yr Urdd 2026 o wythnos nesaf ymlaen.
CYNNIG ARBENNIG
〰️
CYNNIG ARBENNIG 〰️
Tanysgrifiwch i dderbyn eich copis o waith prif enillwyr llenyddol yr Urdd BOB BLWYDDYN cyn diwedd Mehefin 2026, a bydd eich cylch taliad cyntaf hefyd yn cynnwys holl bamffledi Eisteddfod Bro’r Wenynen, Gwent 2027 - 6 pamffled am bris 3!
Tishe plant?
Glain Llwyd / Cyhoeddiadau’r Stamp 2026
ISBN 978-1-0682167-7-0 / 24t. / £5.00
Celf y clawr: Chloe Swinburn
Tudalennau enghreifftiol: