Newyddion: llwyddiant Rhuo ei Distawrwydd Hi
Ffotograffau: Mefus / Llenyddiaeth Cymru
Llongyfarchiadau stampus i Meleri Davies ar gipio gwobr categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2025 gyda’i chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Rhuo ei Distawrwydd Hi.
Dyma’r trydydd tro mewn chwe mlynedd i un o lyfrau Cyhoeddiadau’r Stamp ddod i’r brig yn y categori hwn, yn dilyn llwyddiant Hwn ydy’r llais, tybad? gan Caryl Bryn (2020) a merch y llyn gan Grug Muse (2022).
Derbyniodd Meleri ei gwobr gan Menna Elfyn, beirniad arweiniol y categori barddoniaeth, ar lwyfan Theatr y Sherman nos Iau, 17 Gorffennaf. Disgrifiwyd Rhuo ei Distawrwydd Hi yn y feirniadaeth fel ‘cyfrol fechan ond cyfrol fawr’.
Gallwch ddarllen rhagor yn yr erthygl hon gan Golwg360: ‘Cyhoeddi tair cyfrol arobryn mewn chwe mlynedd’
Un o ganlyniadau camp Meleri yw y bydd Rhuo ei Distawrwydd Hi yn mentro i fan lle na fentrodd yr un o gyfrolau Cyhoeddiadau’r Stamp cyn hyn - pedwerydd argraffiad. Bydd yr argraffiad newydd arbennig ar gael wedi’r Eisteddfod Genedlaethol.
Os am gael gafael ar eich copi chi, cliciwch yma i ddarganfod pa siopau sy’n stocio ein llyfrau, neu archebwch o’r wefan.